Nodiadau Arweiniol i Rieni

Trosolwg

Mae Clwb Rhwyfo Porthmadog yn ran o Glwb Hwylio Madog, ac fel rhan o ddatblygiad y clwb maent yn rhedeg adran Plant a Phobl ifanc.  Lleolir Clwb Hwylio Madog ar y cei yn harbwr Porthmadog gyda iard y tu ôl lle cedwir y  cychod  ac o’r fan hono mae’r gweithgareddau yn cychwyn.

Mae yna dîm profiadol o hyfforddwyr, rheolwyr a rhwyfwyr cefnogol sydd yn cydlynu’r adran gyda diogelwch y flaenoriaeth 1af bob amser o fewn yr holl weithgareddau.

Mae gan y clwb hyfforddwyr Cymraeg a Saesneg, ond efallai bydd rhai sesiynau yn cael eu cynnal yn Saesneg yn unig oherwydd personau sydd ar gael ar y diwrnod, ond pan yn bosib bydd hyfforddwyr dwyieithog priodol ar gael.

Mae’r adran yn canolbwyntio ar ennyn diddordeb plant 12-18 oed mewn rhwyfo fel gweithgaredd pleserus a chystadleuol yn ogystal  ag adeiladu ehangder o sgiliau bywyd.

Gweithgareddau

Mae ganddom 5 math o weithgareddau

  1.  Rhwyfo
  1.  Rasio
  1.  Traws-hyfforddiant
  1.  Sgiliau cyflenwol
  1.  Cymdeithasol

1.Rhwyfo  Gaeaf –Hydref i Mawrth-Bore Sul 10:00 – 12:00

Ar y Sul cyntaf ym  mhob mis rydym yn mynd a’r cychod ar lynoedd i gael profiad cyflwr gwahanol ac i gymdeithasu â chlybiau eraill.

Yr Haf-Ebrill i Medi-Nos Iau 5.30 – 7:00

 

2.Rasio  Rydym yn cystadlu yn gynrhair WSRA (Welsh Sea Rowing Association) ynghyd â’r oedolion.  Bydd y rasus ymlaen ar Ddyddiau Sul rhwng Ebrill a Medi a bydd rhestr or dyddiadau ar gael yn y flwyddyn newydd.

3.Traws-hyfforddiant  I ddatblygu cryfder,stamina a sgiliau mae gweithgareddau eraill yn cael eu trefnu er mwyn gwneud yn siwr fod y sgwad yn gystadleuol, e.e hyfforddiant yn y gampfa,  mynd ar beiriant rhwyfo ,gweithgareddau awyr agored.  Bydd yr hyfforddiant yma o dan arweiniad hyfforddwyr profiadol i sicrhau fod yr ymarfer corff yn addas at ffisioleg ac oedran y plant.  Mae’r sesiynau hyn yn opsiynol.

4.Sgiliau cyflewnol  I  ehangu sgiliau a chael dealltwriaeth o’r awyrgylch bydd cyrsiau ar gael e.e cymorth cyntaf, sut i ddefnyddio’r radio a.y.b fel opsiynau gwirfoddol.

5.Cymdeithasol  Mae rhaglen yn cael ei ddarparu i ysbrydioli cyd-weithio fel tîm.

Gwisg Addas

Gan ein bod yn rhwyfo mewn pob math o dywydd a trwy’r flwyddyn mae’n bwysig meddwl am ddillad i gyd-fynd â’r tywydd.  Hefyd diod a bwyd i gadw egni a hydred ac wrth gwrs offer diogelwch.

  1. Twydd oer.  Dylir gwisgo crys-t (un sy’n tynnu chwys os bosib) o dan grys llewis hir gyda cot, fe ellir tynnu’r got unwaith bydd y corf wedi twymo.  Trowsus coesau hir a chap a menig chwaraeon.
  1. Tywydd poeth.  Crys ysgafn neu fest a siorts.  Hefyd rhaid cofio eli haul a chap os ydi’n heulog.
  1. Tywydd gwlyb.  Cot ysgafn sydd yn dal dŵr. Mae hyn yn bwysig hefyd os yw cyflwr y môr yn dalpiog o ganlyniad i chwistrellu a hefyd amddiffyniad oddi-wrth y gwynt.

Dylir dod a dillad sbar a dillad cynnes  i newdid iddynt ar ôl rhwyfo os bydd angen gan fod y corf yn oeri ar ôl gwneud ymdrech.  Mae cawodydd poeth ar gael yn y clwb.

Wrth lawnsio’r cychod mae traed y rhwyfwyr yn gwlychu felly mae’n bwysig eu bod hefo esgidiau rhwyfo neu hen bâr o esgidiau rhedeg.

Rwyf yn awgrymu i rieni gael sgwrs am ddillad gyda cydlynydd neu hyfforddwr cyn prynu.

Mae gan y clwb grysau arbennig ar gyfer rasio.

Wrth rwyfo ac ar ôl rhwyfo mae’n bwysig yfed felly mae’n rhaid dod a diod megis dŵr neu sudd yn enwedig mewn tywydd poeth.

Offer Diogelwch a Materion Meddygol

Mae’r clwb yn darparu? offer diogelwch yn enwedig siacedi achub arbennig.

Mae pob rhwyfwyr newydd yn llenwi arolwg meddygol, ac os oes cyflwr meddygol yn bodoli dylai rieni gynghori â’r cydlynydd neu’r hyfforddwr sydd yn rhedeg y sesiwn.

Lles

Mae gan y clwb swyddog lles hyfforddedig.  Dylai unrhyw un ifanc, riant neu aelod o’r clwb sydd â phryderion na allent eu codi gyda’r tîm hyfforddi plant gysylltu â’r swyddog lles yn gyfrinachol.  Yna gellir cymeryd camau gweithredu angenrheidiol..

Costau

Aelodaeth o glwb hwylio Madog o dan 18£30 y flwyddyn

Mae aelodaeth teulu ar gael hefyd am£200 y flwyddyn

16 a iau (ar gychwyn blwyddyn ysgol)Am ddim

Aelodaeth WSRA (yn gysylltiedig a chymdeithas rhwyfo Prydeinig)£6 y flwyddyn

Cost pob sesiwn hyfforddi£1

Cost am weithgareddau arbennigyn ôl yr angen

 

Mae’r adran blant yn ffortunus eu bod yn cael eu noddi gan Atyniadau Eryri a hefyd aelodaeth y Bartneriaeth Awyr Agored.  Mae hyn yn golygu y gellir y clwb gadw’r costau i lawr i lefel rhesymol.

Rhifau Cyswllt a Chyfarthrebu

Cydlynydd Adran BlantRichard Gloster0777279878201766 522461

rj.gloster@yahoo.co.uk

Cydlynydd CynorthwyolJill Williams0775335666801766 831603

jilliandawn@btinternet.com

Ysgrifenyddes  y ClwbPippa Owen0774809202301766 512582

pippaowen@yahoo.co.uk

Swyddog LlesJill Gloster07764323299601766 522461

jc.gloster29@yahoo.co.uk

Gwefan Y clwbwww.madog-rowing.co.uk

FacebookMYC Rowing Porthmadog

Mi fydd y plant yn cael eu cysylltu drwy neges destun ac ar dudalen facebook.

 

Ffotograffiaeth

O bryd yw gilydd bydd lluniau yn cael eu tynnu o ddigwyddiadau’r clwb gall rhain gael eu rhoi yn papur, ar wefyn y clwb neu ar dudalen facebook.  Mae rhain yn cael eu monitro ond os nad ydych yn dymuno llun eich plentyn gael eu dynnu mi fydd eich dymuniadau yn cael eu parchu.

Mae tynnu llun fidio yn ran o’r broses hyfforddi a bydd unrhyw fideo ddim ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu a hyfforddi a gellir  eu harchwilio ar gais.

 

Helpu

Os yr ydych ar gael i roi unrhyw fath o gymorth fel trafnidiaeth, cymorth mewn digwyddiadau y clwb a.y.b fe dderbynwyd hyn yn ddiolchgar.  Dim ond cysylltu ag unrhyw swyddog or clwb sydd angen.Peidiwch a bod ofn gofyn am ragor o wybodaeth neu fanylion a mae croeso mawr i chwi roi cynnig arni eich hyn.

 

2018-11-28T22:49:32+00:00June 8th, 2015|Archive Posts, News|0 Comments

Leave A Comment